Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Medi 2021
Amser:
09.15 -
15.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12413
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru Huw Morris, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Phil Boshier (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Ken Skates AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5 ar yr agenda
3.1 Derbyniwyd y cynnig
4 Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Cytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg i gael rhagor o wybodaeth.
4.2 Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 7 Hydref.
5 Paratoadau’r Pwyllgor ar gyfer y sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
5.1 Paratôdd yr Aelodau ar gyfer y sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
6 Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
6.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
- faint o arian ychwanegol sydd wedi cael ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion;
- y llythyr gan Gymwysterau Cymru ynghylch gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru;
- gwaith modelu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r effaith ar sefydliadau Cymru os rheolir mynediad myfyrwyr o Loegr i addysg uwch neu os caiff ffioedd yn Lloegr eu torri yn dilyn ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad y Panel Annibynnol ar yr adolygiad o addysg ôl-18.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda'r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y sesiwn.
8 Trafod y dystiolaeth o’r sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
9 Sesiwn hyfforddi pwyllgorau ar ddiogelu, wedi'i hwyluso gan yr NSPCC
9.1 Cymerodd yr Aelodau ran mewn sesiwn hyfforddi ar ddiogelu.